Camau cais
Yr ydym yn trin pob dêl b osibl yn unigol. Nid oes yr un ddau
fusnes twf yr un fath.
Cyn gwneud cais
Gofynnwn i chi ddarllen ein meini prawr ar gymhwyster i weld os
ydych yn barod am fuddsoddiad.
Rydym eisiau cael gwell dealltwriaeth o bwy ydych, beth ydych yn
ei wneud a sut y gallwn helpu.
Os ydych yn meddwl am fuddsoddiad, bydd y safle hwn yn rhoi
gwybodaeth i chi am yr hyn y medrwn ei gynnig. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau
am sut y medrwn helpu eich busnes i dyfu.
Cais a chynllun busnes
Dylai’ch cais gynnwys cynllunio busnes, cofnodion ariannol a CV
eich tîm rheoli.
Dywedwch wrthym am eich busnes, eich sefyllfa ariannol a’ch
gofynion buddsoddiad. Ni fedrwh symud ymlaen gyda'ch cais nes y
byddwn yn derbyn copi o'ch cais wedi'i lofnodi.
Asesiad
Byddwn yn trefnu cyfarfod cychwynnol os yw’ch cais yn rhoi cyfle
buddsoddi diddorol a chymwys.
Ar gyfer benthyciadau hyd at £25,000, anelwn roi ein
penderfyniad i chi o fewn pum diwrnod gwaith o dderbyn yr holl
wybodaeth rydym ei hangen.
Mae penderfyniad ein rheolwr cronfa yn derfynol.
Diwydrwydd dyladwy
Prisiwn ein deliau yn seiliedig ar y risg cysylltiedig.
Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnal asesiad trwyadl o bawb sy’n
gwneud cais am fuddsoddiad. Ystyriwn y farchnad y gweithredwch
ynddi a’ch tîm rheoli.
Cwblhad cyfreithol
Byddwn yn trefnu’r holl ddogfennau cyfreithol angenrheidiol a
darparu’r cronfeydd.
Ar ôl buddsoddi
Rydym yn cadw cysylltiad rheolaidd ac yn darparu sgiliau
arbenigol a phrofiad i sicrhau fod eich busnes yn tyfu ac y
cynyddir ein buddsoddiad.