Inspiresport
Proffil busnes
Lleoliad:
Cardiff
Sector: addysg a hyfforddiant
Gwefan: www.inspiresport.com
Buddsoddiad
Swm: £505,000
Math: dyled ac ecwiti
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Mae Inspiresport yn cynnig rhaglenni datblygu chwaraeon ar gyfer
ysgolion a grwpiau ieuenctid mewn pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd
a lacrosse. Caiff y rhaglenni pwrpasol eu cyflwyno gan hyfforddwyr
proffesiynol llawn-amser ac maent yn cynnwys teithio i, a llety
mewn, cyrchfannau chwaraeon allweddol.
Mae gan Inspiresport gysylltiadau gyda phrif glybiau chwaraeon
Ewrop, yn cynnwys clybiau pêl-droed Chelsea, Real Madrid ac AC
Milan. Ef yw'r unig sefydliad o'i fath i gael ei gymeradwyo gan
gyrff llywodraethu cenedlaethol ysgolion gwladol ac annibynnol.
Ysgolion gwladol yw tua 80% o'r ysgolion sy’n cymryd rhan yn
rhaglenni Inspiresport.
Roedd Cyllid Cymru yn flaenorol wedi buddsoddi £50,000 o gyfalaf
cychwynnol a datblygu yn Inspiresport.
Y canlyniad
Mae'r buddsoddiad cyfalaf datblygu
diweddaraf yn cefnogi twf Inspiresport wrth iddo ehangu i fod yn un
o brif gwmnïau datblygu chwaraeon ieuenctid Ewrop.
Mae Inspiresport wedi dyblu ei dîm gwerthiant, wedi datblygu
systemau technoleg gwybodaeth newydd ac wedi sicrhau cofrestriad
ATOL. Fel canlyniad, mae'r cwmni wedi datblygu perthynas gyda mwy o
glybiau chwaraeon blaenllaw ac mae mwy o ysgolion wedi ymuno yn ei
raglenni datblygu.
Geirda
"Rydym wedi gweithio’n agos gyda Cyllid Cymru ers i ni sefydlu’r
busnes ac mae’n gwneud synnwyr i barhau'r berthynas honno drwy gam
nesaf ein twf." Tom Shorey, rheolwr gyfarwyddwr, Inspiresport.
"Ers ei ffurfio yn 2004, mae Inspiresport wedi dod yn arweinydd
marchnad. Mae ei botensial am dwf yn ei wneud yn union y math o
gwmni rydym yn falch i fuddsoddi ynddo." Dave Perez, swyddog
gweithredol portffolio, Cyllid Cymru.