SmartKemSmartKem Ltd

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: gogledd Cymru

Sector: opto-electroneg

Web site: www.smartkem.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: £75,000 (rhan o gyd-fuddsoddiad £250,000 gydag angylion busnes xénos)

Math ecwiti

Swyddog Gweithredol: John Mihell

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae SmartKem yn gwmni twf cyfnod cynnar sydd â chynlluniau i chwildroi’r diwydiant gweithgynhyrchu electroneg drwy ddatblygu proses electroneg argraffu laser newydd (LPE). Bydd y broses yn ei gwneud yn bosibl i argraffu byrddau cylched ar unrhyw arwyneb, gan felly ostwng costau gweithgynhyrchu.

 

Y canlyniad

 

Bydd SmartKem yn defnyddio’r buddsoddiad a’r symud diweddar i Technium OpTIC i hybu ei dwf. Mae gan y cwmni gynlluniau i ddatblygu prototeip drwy gydweithio gyda chwmnïau eraill yn ardal Llanelwy. Bydd hefyd yn defnyddio datblygiadau yn y diwydiant LPE.

 

Mae’r cymwysiadau posibl yn amrywio o bapur electronig hyblyg i ddillad thermol, gan roi cwmpas ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

 

Tystebau

 

"Ein cwmni ni yw’r un cyntaf i fod ag ymroddiad llawn i ffilmiau tenau electronig ar gyfer argraffu laser. Roedd angen i ni ddod o hyd i fuddsoddwyr a fyddai’n galluogi i’r cwmni i gychwyn arni, a hefyd i rannu ein hangerdd ar gyfer y diwydiant hwn sy’n datblygu’n gyflym.” Steve Kelly, rheolwr gyfarwyddwr, SmarKem.

 

“Mae SmartKem yn gwmni cyn-refeniw blaengar sy’n gweithredu mewn sector twf uchel ac rydym yn hyderus iawn o’r potensial masnachol ar gyfer eiddo deallusol unigryw'r cwmni.” John Mihell, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru