Cronfa newydd – cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau bach a
chanolig Cymru
Mae cronfa newydd £150 miliwn Cyllid Cymru yn agor cyfoeth o
gyfleoedd i’ch cleientiaid.
Beth mae’r gronfa yn ei olygu i’ch cleientiaid?
Hoffem weithio gyda chi i annog busnesau i ystyried manteision
pecyn cyllid sydd wedi’i strwythuro’n dda. Drwy’r gronfa newydd
rydym:
- Wedi cynyddu’r cyfalaf sydd ar gael
- Yn medru buddsoddi hyd at £2 miliwn mewn un cylch
- Eisiau strwythuro mwy o ddeliau dilynol
- Yn frwd i strwythuro mwy o ddeliau cyd-fuddsoddi
Siaradwch gyda ni
Mae llawer o’n buddsoddiadau sylweddol yn cael eu cyfeirio atom
gan ganolwyr. Cysylltwch â ni i ganfod sut y medrwn gydweithio i
helpu mwy o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Partneriaethau proffidiol
Rydym wedi buddsoddi £110 miliwn mewn busnesau seiliedig yng
Nghymru ers 2001. Mae mwy o wybodaeth yn yr adolygiad blynyddol.