HSBC syn cefnogi rheolwyr Vista i brynu’r cwmni gyda chyd-fuddsoddiad

 

Vista Support Services

Cafodd Vista Support Services Group Cyf (Vista) ei werthu gan ei riant gwmni i’r tîm rheoli presennol. Gwerthodd DigiPos Store Solutions Group (DSSG) y busnes i Brian Norman, rheolwr gyfarwyddwr Vista, a’r cyfarwyddwr cyllid, Richard Olds, mewn dêl sylweddol nas datgelwyd y swm.

 

Mae Vista yn darparu cefnogaeth a chynnal a chadw i systemau EpoS a weithredir gan gwmnïau manwerthu a  lletygarwch ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae ganddo gontractau gyda chwmnïau blaenllaw megis Lloyds Pharmacy, Spar, Peacocks, Londis, Vision Express, Game, Dunelm a llawer mwy.

 

“Bydd y gwerthiant i’r rheolwyr yn galluogi Vista i ymchwilio gwasanaethau cynnal a chadw newydd yn annibynnol ar draws ystod eang o fân-werthwyr a bydd hefyd yn medru parhau i fod yn bartner i DSSG ar y cleientiaid blaenllaw ym Mhrydain sydd eisoes yn derbyn ein gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar y safle,” meddai Brian Norman.

 

“Mae hyn yn golygu y gall Vista fynd ati o ddifrif i gyrraedd ei nod o ddod y prif arbenigydd cynnal a chadw o fewn y sectorau manwerthu a  lletygarwch ym Mhrydain. Rydym yn edrych ymlaen at weithredu fel cwmni annibynnol a chynyddu ein henw da am ddarparu lefel uchel o wasanaeth a boddhad cwsmeriaid.”

 

Mae’r cwmni wedi derbyn buddsoddiad ecwiti a dyled nas datgelwyd y swm gan Cyllid Cymru a chyfleuster dyled ychwanegol gan HSBC.

 

Dywedodd Richard Olds: “Roedd yn hollbwysig i ni ddynodi’r buddsoddiad cywir ar gyfer prynu’r cwmni a buom yn gweithio’n agos i sicrhau pecyn pwrpasol gan Cyllid Cymru a’n bancwyr presennol, HSBC, a arweiniodd at i ni brynu’r cwmni yn llwyddiannus.”