Lefelau buddsoddi yn parhau i gynyddu yn Cyllid Cymru

 

Matthew Pugh with UESBwletin invest

 

Mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi dros £24 miliwn hyd yma yn 2009 - 2010 a mwy na £10 miliwn yn y chwarter diwethaf yn unig – cynnydd sylweddol ar yr un cyfnod y llynedd.

 

Darllenwch am ein deliau diweddar.

 

Buddsoddi ar gyfer twf

 

Cafodd Cyllid Cymru ei galonogi gan nifer y busnesau sy’n dymuno sicrhau cyllid buddsoddiad twf ac mae’n gweithio gyda mwy a mwy o berchnogion busnes, rheolwyr a’u cynghorwyr i strwythuro pecynnau buddsoddi addas.

 

Gan fod yr hinsawdd fusnes ansicr yn gwneud i fusnesau ailystyried eu blaenoriaethau, mae angen i fusnesau sicrhau cyllid twf. Mae llawer yn edrych ar wella effeithiolrwydd, gostwng costau a rhai hyd yn oed yn ystyried ehangu neu gaffaeliad. Mae eraill yn buddsoddi i ddatblygu cynnyrch newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd, neu efallai symud safle; tra bo eraill yn buddsoddi mewn hyfforddiant staff i ddatblygu sylfaen sgiliau eu busnesau.

 

“Mae gan Cyllid Cymru gronfeydd i’w buddsoddi mewn busnesau twf, hyd yn oed os yw eraill yn amharod i wneud hynny,“ esboniodd Peter Wright, cyfarwyddwr buddsoddi. “Credwn ei bod yn amser ardderchog i berchnogion busnes a rheolwyr Cymru i ystyried buddsoddii ar gyfer y dyfodol.”

 

Buddsoddiad strwythuredig yn hanfodol

 

Mae Cyllid Cymru yn awyddus i fuddsoddi yn ei gleientiaid presennol ac mae strwythur y pecynnau hyn (ecwiti, dyled neu gyfuniad o’r ddau) yn hanfodol os yw’ch busnes i fanteisio i’r eithaf ar unrhyw fuddsoddiad.

 

“Mae ein cleientiaid presennol yn deall yr effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad gan Cyllid Cymru ei gael,” esboniodd Wright. “Medrwn edrych ar eich anghenion a strwythuro pecyn o fuddsoddiad ecwiti neu ddyled neu efallai gyfuniad o’r ddau i roi’r cyfle gorau i chi gyflawni eich nod.”

 

Llif arian yn allweddol

 

Os ydych yn ystyried ehangu, efallai nad buddsoddiad dyled yw’r unig opsiwn, yn dibynnu ar lif arian. Medrai buddsoddiad yn cyfuno dyled ac ecwiti helpu gyda chostau cyfalaf: gall fod angen i chi symud safle fel rhan o’ch cynlluniau neu fod costau’n gysylltiedig ag ehangu i farchnadoedd newydd.

 

“Rydym yn strwythuro deliau i roi ystyriaeth i amgylchiadau unigol busnesau ac yn ystyried ystod o ffactorau,” meddai Wright. “Mae llif arian yn ystyriaeth hollbwysig oherwydd ein bod yn strwythuro deliau yn seiliedig ar allu busnes i weini dyled.”

 

Cynllunio ar gyfer twf yn 2010

 

Gyda’r cynllun busnes cywir, gall Cyllid Cymru fuddsoddi yn eich busnes yn 2010. Rydym angen gwybod fod gennych ddealltwriaeth go iawn o sut y byddwch yn cyflawni eich cynlluniau ar gyfer twf a thyfu eich refeniw a’ch elw. Byddwn hefyd yno ar gyfer yr hirdymor i fuddsoddi cylchoedd pellach.

 

“Mae mwy a mwy o berchnogion a rheolwyr eisiau tyfu eu busnesau tu hwnt i’r ‘nenfwd gwydr’ trosiant £2 filiwn,” ychwanegodd Wright. “Felly byddwch yn ddewr a chychwyn ar gynllun twf yn 2010 – ysgrifennwch y cynllun busnes newydd yna.”

 

Cysylltwch â ni os credwch y gall eich busnes ymuno â rhengoedd busnesau sy’n tyfu gyda buddsoddiad Cyllid Cymru.