Ehangu ar gyfer y dyfodol

 

Bwletin invest: rhifyn 3, 2010

 

Mae ZooBiotic yn cynllunio ehangu’n rhyngwladol ar ôl caffael ei brif gystadleuydd yn Ewrop"Mae busnesau’n dal i arddangos archwaeth am dwf, er gwaethaf y cynnwrf economaidd estynedig," meddai Peter Wright, cyfarwyddwr buddsoddi Cyllid Cymru.

 

"Mae hyd yn oed y busnesau cryfaf wedi bod yn bwyllog yn ystod y dirywiad, ond mae nifer yn awr yn arddangos hyder

tawel ac yn cychwyn meddwl am fuddsoddi ar gyfer y dyfodol."

 

Buddsoddi £37 miliwn yn 2009-10

 

Adlewyrchir yr hyder cynyddol yma ym mherfformiad buddsoddi Cyllid Cymruyn 2009-10 pan dorrodd y cwmni ei darged o fuddsoddi £30 miliwn gan fuddsoddi £37 miliwn ym musnesau

Cymru – cynnydd o 42% ar record y fl wyddyn fl aenorol.

 

Darllenwch am ein llwyddiannau allweddol.

 

"Mae Cyllid Cymru’n gwneud mwy o ddeliau nag erioed, er gwaethaf y tueddiadau a welsom yn y farchnad. Fe wnaethom 246 o fuddsoddiadau ecwiti a dyled yn 2009-10". Esboniodd Wright, “mae’n sicr i lansio ein cronfa £150 miliwn helpu, ond bu gan egni ac uchelgais busnesau Cymru ei ran.”

 

Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd buddsoddi eich cleientiaid.

 

Buddsoddi i ehangu

 

Yn galonogol, mae busnesau yn manteisio ar gyfl eoedd ehangu newydd, p’un ai drwy dwf organig neu gaffaeliad strategol. Mae llawer yn gweithio gyda’u cynghorwyr ac yn cymryd y camau ymarferol cywir i roi

eu cynlluniau ar waith. Gall ehangu yn seiliedig ar gynllun busnes a luniwyd yn dda gael effaith dramatig ar dwf busnes yn y dyfodol, gan droi busnesau llwyddiannus yn arweinwyr marchnad.

 

Buddsoddodd Cyllid Cymru drydydd cylch yn ddiweddar yn Cardiff Marine mewn dêl gwerth miliynau o bunnau a fydd yn ei alluogi i barhau i ailddatblygu ei safl e yng Nghaerdydd ac ehangu ei ganolfan gwasanaeth, storio a chyfl enwi morol.

 

Mwy o wybodaeth am Cardiff Marine Group.

 

Caffael y llaw uchaf

 

"Tueddiad arall yr ydym wedi sylwi arno’n ddiweddar yw’r nifer cynyddol o gaffaeliadau,” ychwanegodd Wright.  "Mae llawer mwy o fusnesau yng Nghymru yn mawysiadu strategaethau 'prynu-acadeiladu' wrth iddynt ail-ganolbwyntio eu blaenoriaethau a manteisio ar rai o’r cyfl eoedd ardderchog sydd ar gael ar hyn o bryd."

 

Mewn dêl a ariannwyd gan Cyllid Cymru, prynodd Zoobiotic ei gystadleuydd Biomonde o’r Almaen, gan ei alluogi i gyfnerthu ei eiddo deallusol yn ogystal â sefydlu ei hunan yn fwy effeithiol yn y farchnad yng Ngogledd America.

 

Mwy o wybodaeth am ZooBiotic.

 

Twf cyfalaf yw’r allwedd

 

"Rydym wedi gweld rhai cynlluniau busnes ardderchog yn ddiweddar," meddai Wright. "Rwy’n falch fod

busnesau yn cydnabod rôl bwysig cyfalaf twf a sut y gall y pecyn ariannu cywir helpu busnesau i ehangu."

 

"Mae ein lefel buddsoddi blynyddol wedi cynyddu am y bedwaredd fl wyddyn yn olynol sy’n golygu ein bod yn chwarae rôl hyd yn oed yn fwy wrth helpu busnesau Cymru i gyfl awni eu huchelgais am dwf." Sian Lloyd Jones, prif weithredwr.