Altech Software yn sicrhau £610,000 ar gyfer twf Vision For Food

 

01/06/10

 

Mae Altech Software Cyf wedi sicrhau buddsoddiad o £610,000 fel rhan o strategaeth i farchnata ei feddalwedd Vision For Food ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd.

 

Mae Vision For Food yn cynnig systemau integredig ar gyfer y disgyblaethau technegol, cynhyrchu a datblygu cynnyrch newydd mewn cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd yn fyd-eang ac mae’n disodli pob system cofnodi seiliedig ar bapur ar gyfer cydymffurfio gyda diogelwch bwyd, sicrwydd ansawdd, manyleb, rysetiau a rheoli proses.

 

Mae’r cwmni, sydd â swyddfa yn Hong Kong, wedi sefydlu ei bencadlys yng Nghwmbran ar gyfer hyrwyddo ei ddatrysiadau a chefnogi ei gwsmeriaid. Bydd Cyllid Cymru yn buddsoddi cyfanswm o £300,000 o ecwiti yn y busnes gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi grant ychwanegol o £310,000 drwy ei Gronfa Fuddsoddi Sengl.

 

“Mae gennym gynnyrch sydd wedi ei dreialu ac ennill ei blwyf a ddefnyddir yn llwyddiannus iawn gan fusnesau allweddol yn y sector gweithgynhyrchu bwyd. Roeddem eisiau cyllid ychwanegol i ddatblygu a thyfu’r busnes a roedd y buddsoddiad masnachol gan Cyllid Cymru a grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn hollbwysig,” meddai Alan Blyther, Rheolwr Gyfarwyddwr Altech Software Cyf.

 

Ychwanegodd: “Mae Vision For Food yn trin rheoli gwybodaeth yn y ffatri - y mae llawer yn y diwydiant bwyd yn ei alw yn ‘dwll du’ - ac fe’i cynlluniwyd i fonitro a rheoli prosesau hyblyg nad yw’r systemau presennol yn darparu’n dda ar eu cyfer. Drwy weithredu Vision For Food, gall rheolwyr wella effeithiolrwydd, ansawdd a chydymffurfiaeth diogelwch gan ostwng gwastraff, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid ac elw ar yr un pryd.”

 

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ei fod yn falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi medru cefnogi’r busnes a’i fod yn lansio ei systemau newydd blaengar o Gymru.

 

“Mae gan gwmnïau seiliedig ar dechnoleg fel Vision For Food y potensial i gael effaith wirioneddol ar y farchnad fyd-eang a dyma’r math o fusnes rydym eisiau eu hannog a’u meithrin yng Nghymru. Mae ganddynt y potensial i fod â rôl bwysig yn nhwf yr economi yng Nghymru yn y dyfodol ac yn ein rhaglen adfywio economaidd. Rwy’n hynod falch fod cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad a Cyllid Cymru yn helpu i hybu ei dwf.”

 

Dywedodd Jocelyn Brown ar ran Cyllid Cymru: “Mae gan Altech y gallu i gyrraedd marchnad weithgynhyrchu bwyd fyd-eang fawr iawn lle mae systemau a phrosesau yn hollbwysig ar bob cam. Roedd y cyfle buddsoddi yn gyfle gwerthfawr i ni gymryd rhan mewn cwmni sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth o fewn y diwydiant bwyd a gyda photensial i ddatblygu hynny hyd yn oed ymhellach drwy fod â mynediad i’r farchnad twf cyflym yn China.”

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

 

E-bost: communications@financewales.co.uk

Ffôn: 029 2033 8126