Buddsoddiad o £1 miliwn yn cefnogi ehangiad yn Afonwen
17/11/09
Mae un o olchdai annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig yn cychwyn ar
gyfnod pellach o ehangu gyda £1 miliwn o fuddsoddiad gan Cyllid
Cymru.
Mae Afonwen Laundry, sydd â safleoedd ym Mhwllheli a Chaerdydd a
chwaer gwmni yn Leeds, eisoes wedi buddsoddi £11miliwn yn y busnes
ers 1999 ac wedi cychwyn ar ehangiad pellach gydag agor safle o’r
math diweddaraf yng Nghaerdydd ym mis Mehefin y llynedd.
Bydd y £1miliwn o fuddsoddiad dyled gan Cyllid Cymru, sy’n
darparu cyllid masnachol i fusnesau yng Nghymru, yn galluogi’r
cwmni i ychwanegu at y mwy na 500 o gleientiaid sydd ganddo eisoes,
sy’n cynnwys amrediad eang o westai brand corfforaethol a chadwyni
rhatach i westai boutique annibynnol bach. Mae’r cwmni’n cyflenwi
dros 25,000 o ystafelloedd gwely gwestai ledled Cymru a rhannau
helaeth o Loegr ar hyn o bryd.
Sefydlwyd Afonwen Laundry ger Pwllheli yn 1935 ac fe’i prynwyd
gan y teulu Woolfenden yn 1976. Mae’r cwmni wedi buddsoddi’n
barhaus mewn technoleg a chynnyrch newydd, gan fynd â’r busnes i le
mae heddiw, yn cyflogi dros 300 o bobl ac yn golchi mwy na 1.2
miliwn o eitemau lliain yr wythnos.
Mae buddsoddiad diweddar wedi galluogi’r cwmni i gyflwyno
gwasanaeth lliain o’r radd flaenaf, yn defnyddio’r cotwm Eifftaidd
gorau, ar gyfer rhai o’i gleientiaid.
“Gwelodd yr ychydig flynyddoedd ddiweddar fuddsoddiad sylweddol
yn y busnes ac mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn, wedi’i gefnogi gan
Cyllid Cymru ccc, yn ein galluogi i barhau i dyfu ac ehangu,”
meddai Mark Woolfenden, Rheolwr Gyfarwyddwr Afonwen Laundry.
“Mae gennym bellach nifer fawr o gleientiaid ym mhob rhan o
Gymru a Gogledd, Midlands a De Orllewin Lloegr ac ar draws coridor
yr M4 i Lundain. Rydym yn adeiladu ar hyn gan ychwanegu cynnyrch a
gwasanaethau newydd, a darparu'r hyn mae ein cleientiaid ei angen -
gwasanaeth lliain a golchi o’r radd flaenaf ar bris cystadleuol a
chost-effeithiol.”
Caiff ymrwymiad y cwmni i ansawdd ei adlewyrchu gan ei
gyfrifoldeb i’r amgylchedd. Mae safle golchfa newydd y cwmni yng
Nghaerdydd yn defnyddio technoleg ailgylchu dŵr poeth, sy’n golygu
y caiff 70 y cant o’r dŵr a ddefnyddir drwy gydol y broses olchi ei
ailgylchu.
Ei safle ym Mhwllheli yw’r unig olchfa yng Nghymru a all drin ei
elifion masnach ei hun gyda gwaith triniaeth elifion ar y
safle.
“Mae gan Afonwen Laundry gynllun twf strategol cryf sy’n ei
alluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd, ehangu i farchnadoedd
newydd, tra’n cadw ethos y teulu o ansawdd sydd wedi’i helpu i gadw
rhai cleientiaid am y 30 mlynedd ddiwethaf,” meddai Heather
Abrahams, Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cyllid Cymru.
“Bydd y buddsoddiad dyled gan Cyllid Cymru yn galluogi’r cwmni i
barhau â’i dwf, prynu stociau llieiniau newydd a sicrhau fod
cleientiaid yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.”
Mae’r cwmni wedi derbyn cyllid yn flaenorol gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru tuag at sefydlu’r safle golchdy yng Nghaerdydd yn
ogystal ag ehangu ei fusnes yng Ngogledd Cymru.
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126