Cyllid Cymru yn cefnogi Ocelus Cyf gydag ail gylch
buddsoddi
19/01/10
Mae cwmni sy’n datblygu dyfais cyflenwi cyffuriau heb ddefnyddio
nodwyddau wedi derbyn bron i £500,000 mewn ail gylch buddsoddiad a
chyllid gan Cyllid Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Ocelus Cyf o Gasnewydd yn datblygu dull unigryw ar gyfer
cyflenwi cyffuriau gan osgoi defnyddio nodwyddau ar gyfer dibenion
meddygol. Mae gan y dechnoleg y potensial i sicrhau arbedion
sylweddol i gwmnïau cyffuriau a gwasanaethau iechyd a gostwng yr
anghysur i gleifion sy’n gysylltiedig gyda dulliau confensiynol o
gyflenwi cyffuriau.
Mae’r cylch cyllid diweddaraf yn cynnwys £315,000 o fuddsoddiad
ecwiti gan Cyllid Cymru a grant o £147,000 o Gronfa Buddsoddiad
Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yn galluogi’r cwmni i
ddatblygu ei brototeipiau ac optimeiddio’r dechnoleg ar gyfer
masnacheiddio.
Dan arweiniad Dr Andrew Kirby, sy’n ddyfeisiwr cyson mewn
cwmnïau newydd ac academia, derbyniodd Ocelus Cyf ecwiti cychwynnol
o £50,000 gan Cyllid Cymru yn 2008, ynghyd â grant o £50,000 gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r buddsoddiad diweddaraf gan Cyllid Cymru, sy’n darparu
cyllid masnachol i fusnesau yng Nghymru, yn arddangos potensial y
cwmni a’i dechnoleg, yn ôl Jocelyn Brown, Ymgynghorydd Cyswllt
Cyllid Cymru.
“Mae Ocelus Cyf wedi symud ymlaen drwy ail gymal ymchwil
ddiwydiannol, gan arddangos y technegau gweithgynhyrchu yn
llwyddiannus a chynnal y treialon prawf cysyniad mewn croen dynol,”
meddai Brown.
“Mae technoleg y cwmni wedi denu llawer iawn o ddiddordeb yn
rhyngwladol a bydd ein cyllid dilynol yn ei alluogi i symud ymlaen
i’r cam nesaf cyn masnacheiddio system cyflenwi cyffuriau
newydd.”
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Gweinidog dros yr Economi a
Thrafnidiaeth, fod Llywodraeth y Cynulliad yn ymroddedig i roi’r
gefnogaeth angenrheidiol i helpu cwmnïau arloesol i ddatblygu
cynnyrch a phrosesau newydd.
Dywedodd: “Mae buddsoddiad cwmnïau mewn ymchwil a datblygiad yn
hanfodol ar gyfer twf yr economi yn y dyfodol, a dyna pam ein bod
mor falch i gefnogi ac annog cwmnïau fel Ocelus Cyf i ddatblygu
cynnyrch cenhedlaeth nesaf sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth
go iawn i fywyd pobl ym mhob rhan o’r byd.”
Mae’r dechnoleg a ddatblygwyd gan Ocelus Cyf yn golygu y medrir
cyflenwi rhai cyffuriau heb fod angen nodwydd drwy eu gwthio drwy’r
croen drwy gannoedd o ronynnau microsgopig.
Medrid cymryd cyffuriau ar gyfer anghydbwysedd hormonau a
diabetes, poen canser a llawer o driniaethau eraill drwy’r system
cyflenwi newydd, yn cynnwys brechiadau, gan ostwng poen ac
anghyfleustra chwistrelliad.
Dywedodd Dr Kirby: “Mae gan System Cyflenwi Micromewnblannu
Ocelus botensial gwych yn y sector meddygol a fferyllol yn fyd
eang, ac mae’r cylch diweddaraf hwn o gyllid yn arddangos ymrwymiad
Cyllid Cymru i Ocelus Cyf a’n technoleg.
“Gyda’r cyllid hwn, medrwn barhau i ddatblygu ein system
arloesol, a gweithio gyda chwmnïau micro-beirianneg a
fformiwleiddiad fferyllol o bob rhan o’r byd i gynhyrchu’r
prototeipiau gorau ar gyfer eu profi ar groen dynol. Mae Ocelus
hefyd yn gweithio gyda Bang and Olufsen Medicom, cwmni dylunio
dyfeisiau meddygol profiadol iawn, i gynyddu perfformiad
swyddogaethol a defnyddioldeb i gleifion.
Mae’r cwmni ar fin symud i safle labordy newydd yn Nhŷ Imperial,
Casnewydd, fel rhan o’i ehangiad.
Y cynghorwyr ar y ddêl oedd: Diwydrwydd dyladwy
technegol-fasnachol, PharmaVentures; Adolygiad eiddo deallusol: IP
Pragmatics; Cyfreithiol ar gyfer Cyllid Cymru, Hugh James
Solicitors; Cyfreithiol ar gyfer Ocelus, Capital Law.
Dywedodd Greg Williams, Uwch Ymgynghorydd Cyswllt yn Hugh James
Solicitors: "Rydym yn hynod falch i fod wedi cynghori Cyllid Cymru
ar ei fuddsoddiad ecwiti yn Ocelus. Roeddem yn neilltuol o falch i
gymryd rhan yn y buddsoddiad cyfnod cynnar hwn mewn cwmni gwyddor
bywyd, oedd yn cynnwys ystyried materion eiddo deallusol cymhleth,
o gofio am ein profiad sylweddol mewn cynghori Cyllid Cymru ac
eraill ar nifer o drafodion eraill yn y sector cyffrous yma.”
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126