GeoVS yn derbyn buddsoddiad o £250k ar gyfer technoleg danddwr
mewn marchnadoedd olew a nwy
20/07/2010
Mae GeoVS, cwmni a ddeilliodd o Brifysgol Morgannwg, wedi
sicrhau buddsoddiad ecwiti o £250,000 gan Cyllid Cymru i barhau i
ddatblygu ei lwyfan meddalwedd delweddu ac efelychu 3D ar gyfer
defnyddiau morol a geo-fodelu yn cynnwys cynllunio tanddwr, mordwyo
a rheoli traffig llongau.
Bydd y cwmni cyfnod cynnar, sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, yn
defnyddio’r buddsoddiad i arddangos y defnyddiau ar gyfer ei
dechnoleg 3D o fewn y diwydiannau olew, nwy a morol ac i
fasnacheiddio ei gynnyrch meddalwedd 3D yn llawn.
Wedi’i sefydlu ym mis Chwefror 2009 gan yr Athro Christopher
Gold a Dr Rafal Goralski, sy’n arbenigwyr mewn geoddelweddu 3D, mae
technoleg GeoVS yn trosi mapiau neu siartiau’n gyflym i fod yn
ddelweddau neu fodelau 3D, gan roi gwybodaeth ar y pryd i
ddefnyddwyr sy’n hollbwysig ar gyfer nifer o ddefnyddiau megis
mordwyo ar yr wyneb a thanddwr ac ymwybyddiaeth sefyllfa o amgylch
harbwrs a llwyfannau yn y môr.
Mae’r dechnoleg yn rhyngweithio’n rhwydd gydag amrywiaeth o
galedwedd ac yn ei gwneud yn bosibl trafod yr amgylchedd ar y pryd,
gan ddefnyddio rhyngwyneb rhyngweithiol ac ergonomig iawn i’r
defnyddiwr, i drosglwyddo gwybodaeth yn gyflymach ac yn gywirach.
Mae hyn yn lleihau camgymeriadau ac yn cynyddu effeithiolrwydd
diogelwch a gweithredol.
Dywedodd Ann Casey, Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cyllid Cymru:
“Fel cam cynnar, cyn-refeniw, mae GeoVS eisoes wedi datblygu ei
dechnoleg arloesol. Mae’r cwmni wedi denu cadeirydd profiadol, gyda
ffocws diwydiant sydd â dealltwriaeth glir o’r potensial marchnad
ar gyfer ei gynnyrch. Mae Cyllid Cymru yn awyddus i fuddsoddi mewn
cwmnïau cyfnod cynnar sydd â chynllun busnes cadarn a gall
fuddsoddi cylchoedd ychwanegol ar yr amser cywir.”
“Roedd GeoVS angen buddsoddiad ecwiti o £250,000 i sicrhau safle
marchnad rhyngwladol cryf i dyfu ohono,” meddai Alastair MacDonald,
Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr GeoVS. “Mae’r cwmni eisoes wedi
datblygu cysylltiadau cryf gyda darpar gwsmeriaid a disgwyliwn fod
yn masnachu’n llwyddiannus erbyn mis Hydref.”
Ychwanegodd MacDonald: “Bydd y buddsoddiad gan Cyllid Cymru yn
galluogi GeoVS i gwblhau gwaith datblygu pellach a bydd yn sicrhau
fod ein cynnyrch a thechnoleg yn parhau i arwain mewn technoleg
delweddu 3D ac yn gydnaws gyda’r datblygiadau diweddaraf o fewn y
sector technoleg gwybodaeth.
“Yn y cyd-destun olew, nwy ac ynni adnewyddadwy, mae manteision
cynnyrch GeoVS yn golygu y gall ffermydd gwynt yn y môr gael eu
cynllunio’n gyflym ac effeithiol, y medrir efelychu prosiectau yn y
môr a dynodi, gwerthuso a dileu’r risgiau cyn costau cynnal
prosiectau’n go iawn, ac y gall cerbydau tanddwr yn awr weithredu
mewn sefyllfa lle na fedrir gweld dim bron, eto bod mewn sefyllfa
ddiogel yng nghyswllt yr holl gyfleusterau tanddwr y maent yn
gweithio arnynt.
“Mae gennym hefyd geisiadau a chynnyrch technoleg dilynol yn yr
arfaeth i sicrhau twf y cwmni.”
Nododd Dr Rafal Goralski, y Cyfarwyddwr Technegol: “Mae’r
meddalwedd craidd yn ddatblygedig iawn, ond mae’r systemau yn
wirioneddol rwydd eu defnyddio a medrir defnyddio’r buddion yn
rhwydd mewn marchnadoedd eraill megis systemau rheolaeth traffig
llongau ar gyfer porthladdoedd a harbyrau ac i gynorthwyo mordwyo i
longau ar yr wyneb, llongau tanfor a cherbydau awyr di-griw.”
Buddsoddodd Cyllid Cymru £5.75 miliwn drwy 30 buddsoddiad cyfnod
cynnar yn 2009-10. Mae cyfanswm buddsoddiad uniongyrchol Cyllid
Cymru ym musnesau Cymru yn fwy na £157 miliwn ar hyn o bryd a wnaed
drwy 2400 buddsoddiad ers 2001.
Dywedodd Doug Hampson, Rheolwr Deillio Masnachol Prifysgol
Morgannwg: “Roedd yn wirioneddol gyffrous cynorthwyo’r ddau
ymchwilydd hyn, sydd â gogwydd masnachol, i ddatblygu cynnyrch yn
seiliedig ar 10 mlynedd o ymchwil. Fe wnaethom i gyd ddatblygu ein
sgiliau’n sylweddol wrth lunio pecyn gyda phobl, technoleg a
chyfleoedd marchnad a ddenodd fuddsoddiad gan Cyllid Cymru a
Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu’n fraint gweithio gyda Alastair,
Rafal a Christopher dros y 18 mis diwethaf.”
Y cynghorwyr ar y ddêl oedd Hugh James a Capital Law
(cyfreithiol) a Douglas Westwood (diwydrwydd dyladwy
masnachol).
Dywedodd Greg Williams, Cyfreithiwr Corfforaethol a arweiniodd y
tîm yn Hugh James: “Rydym yn falch iawn i fod wedi gweithio gyda
Cyllid Cymru ar eu buddsoddiad diweddaraf yn GeoVS, cwmni arloesol
yn gweithredu yn y sector meddalwedd blaengar iawn. Mae’r sector
wedi rhoi llif cryf o waith i’n cwmni er yr amodau economaidd anodd
ac rydyn yn bendant yn ei weld fel marchnad allweddol ar gyfer y
dyfodol.”
I gael mwy o wybodaeth ar GeoVS gweler www.geovs.com.
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126