Chris Rowlands yn ymuno â bwrdd Cyllid
Cymru
30/03/10
Bydd Chris Rowlands, awdur a chadeirydd
‘Adolygiad Rowlands’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar argaeledd
cyfalaf twf i fusnesau bach a chanolig, yn ymuno â Bwrdd Cyllid
Cymru.
Daw ei benodiad wrth i effaith Cyllid Cymru ar
fusnesau bach a chanolig Cymru gyrraedd mwy na hanner biliwn o
bunnau, ar ôl buddsoddi £150 miliwn yn uniongyrchol ers 2001 ac
ysgogi £350 miliwn arall.
Mae Mr Rowlands, sy’n frodor o Gaerdydd ac a
oedd yn gyfarwyddwr 3i Investments ccc cyn ymddeol y llynedd fel
Partner Rheoli - Asia, yn ymuno â Cyllid Cymru wrth iddo ehangu i
farchnadoedd newydd yn y Deyrnas Unedig a pharhau i fuddsoddi ei
gronfa £150 miliwn yng Nghymru.
Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Mr Rowlands
y Rowlands Growth Capital Review a ddywedodd fod bwlch parhaol yn
bodoli ar gyfer busnesau sy’n edrych am gyfalaf twf o rhwng £2m -
£10m. Mae Llywodraeth y DU yn awr yn ystyried lansio cronfa £500
miliwn i lenwi’r bwlch fel y cyhoeddwyd yn y gyllideb
ddiweddar.
Dywedodd Siân Lloyd Jones, Prif Weithredwr
Cyllid Cymru, y byddai penodiad Mr Rowlands fel cyfarwyddwr
anweithredol yn dod â phrofiad sylweddol i’r Bwrdd ar amser
hollbwysig i Cyllid Cymru.
“Rydym yn falch iawn fod Chris yn ymuno â ni.
Mae ganddo brofiad enfawr o’r farchnad ecwiti preifat, o fewn y
Deyrnas Unedig a hefyd yn fyd-eang, a dealltwriaeth ddofn o gyfalaf
twf”.
Daw penodiad Mr Rowlands ar ôl i Cyllid Cymru
ehangu ei gyrraedd yng Nghymru gyda lansiad cronfa £150 miliwn
newydd y llynedd yn defnyddio buddsoddiad drwy Fanc Buddsoddi Ewrop
a’r Undeb Ewropeaidd drwy gynllun JEREMIE – y cyntaf o’i fath yn
Ewrop.
Penodwyd FW Capital, is-gwmni’r cwmni, hefyd
yn rheolwr cyllid ar gyfer cronfa debyg yng Ngogledd Ddwyrain
Lloegr ym mis Ionawr eleni.
Dywedodd Mr Rowlands, sydd wedi symud yn ôl i
fyw yng Nghymru ac sydd hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol
Cymdeithas Adeiladu’r Principality, ei fod wrth ei fodd i ymuno â’r
cwmni.
“Mae Cyllid Cymru yn gwmni rheoli cyllid
blaengar a deinamig – un o’r mwyaf o’i fath o ran maint ac o ran
llwyddiant yn y Deyrnas Unedig – ac rwy’n falch i fod yn ymuno â
thîm o’r fath ar amser hollbwysig i fusnesau bach a chanolig sy’n
chwilio am fuddsoddiad,” meddai Mr Rowlands.
Dechreuodd Mr Rowlands, a addysgwyd yn Ysgol
Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, ei yrfa gyda Banc
Barclays yn 1973. Ers hynny, cododd drwy’r rhengoedd rheoli yn
Arthur Andersen a 3i, gan ymddeol fel Partner Rheoli - Asia 3i y
llynedd.
Estynnodd Ian Johnson, cadeirydd y Bwrdd,
groeso i Mr Rowlands. Dywedodd: “Bydd Chris yn arwain at ein bwrdd
sydd eisoes yn brofiadol a gyda ffocws masnachol wrth i ni yn awr
symud y busnes ymlaen.”
Croesawyd Mr Rowlands hefyd gan Ieuan Wyn
Jones, Dirprwy Brif Weinidog. Dywedodd “Mae gan Mr Rowlands hanes
ardderchog o lwyddiant ac rwy’n hynod falch gyda’r penodiad hwn.
Mae’n brofiadol tu hwnt ac mae ganddo wybodaeth ddiguro o’r
farchnad. Mae’r penodiad hwn yn cryfhau bwrdd Cyllid Cymru
ymhellach wrth i’r cwmni symud tuag at gyflawni’r weledigaeth o
greu sefydliad ariannol cynaliadwy yng Nghymru.”
Sefydlwyd Cyllid Cymru fel is-gwmni i
Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2001 i ddarparu buddsoddiad masnachol
i fusnesau bach a chanolig. Hyd yma mae wedi buddsoddi dros £150
miliwn drwy fwy na 2,300 buddsoddiad. Mae hefyd wedi ysgogi £350
miliwn ychwanegol mewn buddsoddiad sector preifat.
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126