Safbwynt Steve Smith: addunedau Blwyddyn Newydd ar gyfer 2010

 

14/01/10

 

Steve Smith, early stage investments director

Mae blwyddyn newydd yn golygu cychwyn newydd, neu dyna’r gred, ac ni ddylai 2010 fod yn eithriad.

 

Rwyf bob amser wedi credu fod cymryd golwg newydd ar ein nodau, p’un ai bersonol neu fusnes, yn gynnar yn y flwyddyn newydd yn ddefnydd buddiol o amser. Ar ôl gweithio gyda llawer o gwmnïau newydd a chyfnod cynnar, lle mae llawer o bethau yn newydd ac mai newid yw’r unig gysondeb, medraf yn bendant argymell fuddsoddi peth amser i wneud hyn.

 

Dyma fy 7 adduned Blwyddyn Newydd 2010 ar gyfer cychwyn a thyfu busnes deillio technoleg newydd:

  1. 1. Penderfynu ar eich cynnig gwerth: a yw’ch cynnyrch neu dechnoleg yn trin a bodloni angen cwsmeriaid yn awr neu yn y dyfodol?

  2. Diffinio eich pwynt gwerthu unigryw: beth sy’n gwneud eich cynnyrch neu dechnoleg yn well na’r gystadleuaeth bresennol?

  3. Diogelu eich eiddo deallusol: mae’r “gwybod sut” tu ôl i’ch technoleg yn sylfaenol i adeiladu gwerth busnes, felly sut fyddwch yn ei ddiogelu?

  4. Cryfhau eich tîm rheoli: a oes gan eich tîm ymroddiad i lwyddiant masnachol? A oes ganddo’r sgiliau cywir i fynd i’r afael â heriau presennol ac ansicrwydd y dyfodol?

  5. Meddwl am eich llwybr i’r farchnad: sut fyddwch chi’n gwerthu eich cynnyrch neu dechnoleg? Pwy fydd yn ei brynu a faint fyddant yn ei dalu amdano?

  6. Prisio eich busnes: faint ydych chi angen i fasnacheiddio eich busnes? Pa ddewisiadau cyllid sydd ar gael i chi?

  7. Ystyried eich potensial gadael: beth yw’r enillion tebygol i fuddsoddwyr? Wyddoch chi am unrhyw achosion tebyg? Beth yw eich cynllun gadael?

Rydym yn buddsoddi mwy yn Cyllid Cymru - dros £20 miliwn hyd yma yn 2009-10, mewn gwirionedd, ac rydym yn awyddus i fuddsoddi yn eich busnes.

 

Felly byddwn yn eich annog i wneud rhai newidiadau parhaol i’ch busnes a mynd am dwf yn 2010!

 

Yr hyn y dylech ei wneud 'nawr

 

Cysyllwch â ni gyda manylion eich cynllun busnes.