Safbwynt Rachel Miles ar gynllunio olyniaeth
02/07/10

Rydych yn berchennog/rheolwr busnes ac yn barod i
ymddeol neu gamu lawr. Beth sy’n digwydd nesaf? Pam na ddylech
fanteisio i’r eithaf ar oes o waith?
Mae olyniaeth yn gwestiwn y mae angen i bob
busnes ei drin ar ryw adeg ac mae’r perchennog/rheolwyr busnes
doethaf yn cynllunio ymhell ymlaen llaw.
Yn ôl arolwg diweddar gan Lywodraeth y Deyrnas
Unedig, dim ond dau ym mhob tri o fusnesau yn y DU sydd â chynllun
olyniaeth clir. Nid oes gan y gweddill strategaeth glir ar gyfer
gadael, sy’n golygu y gall trosglwyddo rheolaeth i berchennog
newydd fod yn anniben iawn.
Ar ei waethaf, gallech golli asedau, gallai
eich busnes gau ac ni fyddwch yn manteisio o fywyd o waith.
Trosiant esmwyth
Mae Cyllid Cymru yn annog busnesau, yn cynnwys
busnesau yr ydym wedi buddsoddi ynddynt eisoes, i gynllunio’n iawn
ar gyfer olyniaeth. Mae’r cyllid a’r arbenigedd gennym i helpu
rheolwyr neu aelodau staff i brynu busnes.
Felly, p’un ai ydych yn gwerthu i’ch tîm
rheoli presennol neu’n ystyried gwerthiant masnach, medrwn
ddefnyddio ein profiad i’ch helpu i lywio’n glir o’r maglau.
Prisio eich busnes
Mae’n bwysig bod yn realistig wrth brisio
busnes.
Meddyliwch am ddangosyddion ariannol allweddol
eich busnes a sut y gallech eu gwella i gael y prisiant gorau. Os
ydych i sicrhau’r pris gorau, bydd angen i chi gyfathrebu eich
busnes yn effeithiol i ddarpar brynwyr.
Cofiwch, mewn gwirionedd, nad yw busnes ond yn
werth yr hyn y bydd prynwr yn fodlon ei dalu amdano.
Camau i olyniaeth
- Meddwl am bethau o safbwynt darpar brynwr.
- Creu cynllun olyniaeth ffurfiol – bydd angen i hyn fod yn
gadarn, felly gweithiwch gyda’ch cynghorwyr i wneud yn sicr yr
ystyriwyd popeth.
- A oes prynwr amlwg ar gyfer eich busnes? A fyddai unrhyw un
o’ch uwch reolwyr presennol yn debygol o brynu’r busnes?
- Mae’n debygol y bydd unrhyw ddarpar brynwr angen y cyllid cywir
- gall olyniaeth fod yn fusnes drud. Mae gan Cyllid Cymru gronfeydd
ar gael ynghyd â’r arbenigedd i helpu strwythuro’r pecyn cyllid
cywir.
Cysylltwch â fi
Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd, gall fod yn amser i gysylltu â fi. Rwy’n awyddus i helpu eich
olyniaeth i fynd mor esmwyth ag sydd modd.