Hygyrchedd

Mae Cyllid Cymru yn ceisio sicrhau bod ei wefan yn hygyrch i bawb a’i bod yn hawdd ei defnyddio. Cysylltwch â ni os na allwch ddefnyddio’r safle hon.

Mae gwefan Cyllid Cymru yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 y Worldwide Web Consortium (W3C) ac mae’n gweithio gydag awduron cynnwys, datblygwyr a sefydliadau anableddau i gyrraedd y safon AA lle bynnag y bo’n bosibl.

Defnyddio’r bysellfwrdd yn hytrach na’r llygoden

Internet Explorer

  • Shift + Alt + S = skip navigation
  • Shift + Alt + H = home
  • Shift + Alt + A = accessibility information

Firefox

  • Shift + Alt + S = osgoi’r gwelywio
  • Shift + Alt + H = hafan
  • Shift + Alt + A = gwybodaeth am hygyrchedd 


Gallwch gynyddu maint y dudalen yn IE7 a Firefox:

Yn Internet Explorer 7 

  • Ctrl + (gwneud y testun yn fwy)
  • Ctrl - (gwneud y testun yn llai)
  • Ctrl 0 (gosod ar 100%)

Os oes gennych olwyn sgrolio ar eich llygoden, pwyswch y fysell ctrl ac yna trowch yr olwyn oddi wrthych i wneud y testun yn fwy, a thuag atoch i wneud y testun yn llai.

Yn Firefox, ewch i View > Zoom a gallwch ddefnyddio Zoom in neu Zoom out.

Newid gosodiadau sgrin eich cyfrifiadur

I newid maint y ddelwedd ar eich sgrin ar gyfrifiadur sy’n defnyddio Windows 95 ac uwch, ewch i Start > Settings > Control Panel > Display > Settings a newidiwch y bwrdd gwaith drwy ddefnyddio’r bar llithro.

Ar beiriant Apple Macintosh, gallwch ddefnyddio’r panel Monitor & Sound Control i newid yr eglurder.

Problem gyda’r bysellfwrdd neu’r llygoden

Gallwch addasu gosodiadau eich llygoden a’ch bysellfwrdd drwy ddilyn: Start > Settings > Control Panel > Accessibility yn Windows 95/98/NT/2000 ac XP.

Osgoi’r gwelywio ar gyfer porwyr llais a rhaglenni darllen sgrin

Ar gyfer porwyr llais gallwch bwyso Alt ac S, wedyn Enter er mwyn osgoi’r gwelywio ar ein tudalennau.