Hunger
Cynhyrchiad
Cynhyrchwyr: Blast! Films
Math: ffilm hir
Genre: biopic, drama
Crynodeb: Mae Hunger yn dangos bywyd yng
ngharchar y Maze ac yn dehongli digwyddiadau streic newyn yr IRA yn
1981.
Gwefan: www.hungerthemovie.co.uk
Buddsoddiad
Swm: 7% o gyfanswm y gyllideb
Partneriaid: BCI, Channel Four, Northern
Ireland Screen
Swyddog gweithredol: Bethan Bannister, Bethan
Cousins
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Roedd y rhan fwyaf o’r gyllideb yn ei le ar gyfer Hunger pan
gysylltodd y cynhyrchwyr â Cyllid Cymru.
Roedd y prosiect yn un masnachol iawn ac yn ymroddedig i
ddefnyddio Dragon DI, tŷ ôl-gynhyrchu seiliedig yng Nghymru.
Canlyniad buddsoddiad
Cafodd Hunger gydnabyddiaeth ryngwladol, gan ennill 27 gwobr yn
cynnwys BAFTA a gwobrau yng ngwyliau ffilm Cannes, Sydney a
Toronto.
Cymerodd Cronfa ED Creadigol Cymru gyfran o eiddo deallusol y
ffilm a bydd yn ail-fuddsoddi’r elw mewn prosiectau creadigol
eraill yng Nghymru.
Geirda
"Arwyr tawel ffilmiau fel Hunger yw’r arianwyr
sy’n cymryd y risg ac yn cefnogi ffilmiau mor uchelgeisiol a
heriol. Ynghyd â’r partneriaid eraill, manteisiodd y ffilm o
gefnogaeth ariannol a chefnogaeth greadigol Cronfa ED Creadigol
Cymru. Heb gyllid o’r fath, byddai bron yn amhosibl ariannu ffilm
anghonfensiynol fel Hunger sydd nid yn unig wedi ei chanmol gan y
beirniaid ond sydd hefyd wedi canfod cynulleidfa sylweddol ym
Mhrydain ac yn rhyngwladol." Laura Hastings-Smith, cynhyrchydd,
Hunger.
"Rydym yn falch i fod yn gysylltiedig gyda
Hunger. Mae’n gwneud yn dda ar y llwyfan rhyngwladol a chafodd
effaith gadarnhaol ar economi Cymru." Bethan Bannister,
gweithredydd buddsoddi Cyllid Cymru.