Skellig
Cynhyrchiad
Cynhyrchwyr: FEEL Films
Math: ffilm hir,
teledu
Genre: drama teulu
Crynodeb: Mae Skellig yn adrodd hanes bachgen
o’r enw Michael sydd â chwaer fach gyda salwch marwol. Mae’n
darganfod creadur hud o’r enw Skellig yn byw yng ngarej ei gartref
newydd a dros gyfnod yn dod i wybod sut y medrai helpu ei chwaer
fach.
Gwefan: www.sky1.co.uk/skellig
Buddsoddiad
Swm: o gyfanswm y gyllideb
Partneriaid: Limelight, Sky
Swyddogion gweithredol: Bethan Bannister,
Bethan Cousins
Pam y gwnaethom fuddsoddi:
Yn 2008 ymrwymodd Sky i fuddsoddi £1m mewn cyfres o sioeau drama
teulu diffiniad uchel gyda ‘Skellig’ yn gynhyrchiad arweiniol gyda
chast cryf yn cynnwys Tim Roth, Kelly MacDonald a John Simm.
Mae gan Skellig botensial i ddenu cynulleidfa fawr. Fe’i
haddaswyd o nofel wobrwyol sy’n rhan o’r cwricwlwm
cenedlaethol.
Canlyniad y buddsoddiad
Saethodd cynhyrchwyr Skellig yr holl gynhyrchiad yng Nghaerdydd
a’r cylch mewn lleoliadau megis Castell Caerffili, Coedwig Wenallt
a Llynnoedd Canada yn Llantrisant. Amcangyfrifir y gwerir tua £1.4
miliwn yng Nghymru yn ystod y ffilmio.
Ar ôl ei ddangosiad cyntaf ar y teledu ddydd Sul 12
Ebrill 2009, dangosir Skellig am gyfnod byr mewn theatrau
cyn ei ryddhau ar DVD. Disgwylir y bydd gwerthiant tramor yn
uchel.
Geirda
"Gwnaeth cefnogaeth frwdfrydig Cronfa ED Creadigol Cymru ynghyd
ag adnoddau rhagorol, criwiau gwych, a lleoliadau perffaith yng
Nghaerdydd a’r cylch a’r agosatrwydd at Lundain, ef yn benderfyniad
rhwydd i ffilmio yng Nghymru." Nick Hirschkorn, cynhyrchydd, FEEL
Films.
"Mae Skellig yn enghraifft wych o brosiect masnachol deniadol
sy’n cael effaith cadarnhaol ar unwaith ar economi Cymru." Bethan
Bannister, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.