Prawf buddsoddi
Buddsoddwr masnachol yw Cyllid Cymru. Cyn i chi wneud cais i ni,
dylech sichrau fod eich busnes yn gymwys am fuddsoddiad:
-
Rhaid i chi fod yn fusnes bach i ganolig, yn seiliedig yng
Nghymru ac yn cyflogi llai na 250 o bobl.
-
Rhaid i’ch trosiant blynyddol beidio bod yn fwy na €50
miliwn.
Beth i'w gynnwys yn eich cynllun busnes
Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes am y 1 - 5 mlynedd
nesaf, felly dylech ddangos achos busnes cryf dros fuddsoddi:
Cynnyrch neu wasanaeth
- Ar gyfer beth y byddwch yn defnyddio ein buddsoddiad? Pa
fanteision fydd cefnogaeth Cyllid Cymru yn eu rhoi i’ch
busnes?
- Beth yw pwynt gwerthu unigryw eich cynnyrch craidd?
- A oes gan eich cynnyrch craidd eiddo deallusol neu ddiogeliad
patent?
- Beth yw’r llwybr i’r farchnad ar gyfer eich cynnyrch
craidd?
Galw marchnad
Potensial twf a gadael
- Sut fydd eich trosiant a’ch elw yn tyfu? Cynhwyswch eich
rhagolygon ariannol; mae angen i ni gael sicrwydd am ddychweliad ar
ein buddsoddiad.
- Beth yw eich strategaeth gadael? Gadewch i ni faint o amser a
ddisgwyliwch cyn gadael a’ch llwybr ar gyfer gwneud hynny a
phrisiant posibl eich cwmni.
Arbenigedd rheolaeth
- A oes gan eich rheolwyr brofiad o sefydlu neu redeg
busnes?
- Pa brofiad arall sydd ganddynt?
- Pam mai hwy yw’r bobl orau i redeg y busnes?
- A oes gennych fylchau yn eich tîm? Dywedwch wrthym, medrem
helpu.
Gwybodaeth buddsoddi
- Ydych chi wedi gofyn am gyngor gan gynghorydd busnes
annibynnol?
- Ydych chi wedi ystyried cyllid o ffynonellau eraill fel rhan o
becyn buddsoddiad ehangach?
Mae Cyllid Cymru yn defnyddio cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Gall
rhai ardaloedd o Gymru fod yn gymwys am fwy o adnoddau.